Projects
Neath Abbey Ironworks Plans WGAS. Cynlluniau Neath Abby Ironworks GAGM.
Neath Abbey Ironworks Plans forms part of the West Glamorgan Archive Service (WGAS) collection of over 8,000 engineering plans dating from the early 18th century.
These plans have been listed on the UNESCO UK Memory of the World Register due to the insight they provide into developments during the industrial revolution.
Yn dyddio o ddechrau’r 18fed ganrif mae cynlluniau Neath Abby Ironworks yn rhan o gasgliad Gwasanaeth Archif Gorllewin Morgannwg (GAGM). Fe’u rhestrwyd ar Gofrestr Cof y Byd UNESCO’r DU oherwydd y mewnwelediad a roddant i ddatblygiadau yn ystod y chwyldro diwydiannol.
Description: All 8,000 plans were cleaned and surveyed prior to this project. 312 plans were identified as unfit for production. A majority of the plans are made of thick woven paper with black ink with some pigment present. The damage can be categorized into two types, chemical and mechanical at a ratio of 90:10.
Treatment: Plans with chemical and mechnical damage (including pigments) were repaired on the suction table using damp blotters impregnated with water and then calcium bicarbonate in order to reduce the risk of the pigments fading and further mechanical damage. The plans with no coloured pigment were supported with a sheet of tissue during immersion washing, in water followed by calcium bicarbonate. Both treatments reduced the risk to the pigment and the fragile paper.
All of the plans were repaired using Woven Western paper Griffin Mill 80gsm or 115gsm as it best matched the original paper. Spider tissue was selected to support the back of the plans, with some requiring a stronger support of RK09 and an RK00 support on the face. Gelatine 3% was selected as the adhesive as it also consolidated the paper.
Disgrifiad: Arolygwyd a glanhawyd dros 8,000 o gynlluniau cyn y prosiect hwn. Yn ystod yr arolwg nodwyd bod 312 o gynlluniau yn anaddas i’w cynhyrchu. Mae mwyafrif o’r cynlluniau ar bapur trwchus gydag inc du a rhywfaint o bigment lliw. Gellir categoreiddio’r difrod yn ddau fath, cemegol a mecanyddol, 90:10.
Triniaeth: Dewiswyd dau fath o driniaeth. Atgyweirwyd y cynlluniau â difrod mecanyddol a chemegol (gyda phigmentau) ar y bwrdd sugno gan ddefnyddio papur-sugno wedi eu gwlychu gyda dŵr ac yna chalsiwm bicarbonad. Atgyweirwyd y cynlluniau gyda niwed cemegol heb bigmentau drwy eu golchi o ddŵr ac yna chalsiwm bicarbonad. Roedd y ddau driniaeth yn lleihau’r risg i’r pigmentau a’r papur bregus.
Atgyweiriwyd yr holl gynlluniau gyda phapur wedi ei wehyddu Griffin Mill 80gsm / 115gsm gan ei fod yn debyg. Defnyddwyd y papur pry cop neu RK09 ar y cefn ac RK00 ar yr wyneb. Dewiswyd gelatin 3% fel y glud gan ei bod hefyd yn cryfhau’r papur.